Porthiant RSS (Syndicetiad Syml Iawn/Really Simple Syndication)
Help?
Beth yw RSS?
Sut y gallaf ddefnyddio RSS?
Sut mae cael darllenydd newyddion?
Alla i ddefnyddio'r porthiannau hyn ar fy ngwefan?
Beth yw RSS?
Mewn byd sy’n crymu dan bwysau biliynau o dudalennau gwe, gall fod yn anodd cael gafael ar y wybodaeth ddiweddaraf y mae ei heisiau arnoch.
Oni fyddai’n well pe câi’r newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf eu hanfon atoch yn uniongyrchol, yn hytrach na chlicio o'r naill wefan i'r llall? Mae RSS yn rhoi gwybod i chi pan fydd gwefannau ar draws y rhyngrwyd wedi ychwanegu cynnwys newydd. Gallwch gael y penawdau a'r erthyglau diweddaraf (neu hyd yn oed ffeiliau sain, ffotograffau neu fideo) i gyd yn yr un lle cyn gynted ag y’u cyhoeddir, heb orfod cofio ymweld â bob gwefan bob dydd.
Mae'n cael gwared ar y strach o gael gafael ar y wybodaeth ddiweddaraf, gan y bydd yn dangos y wybodaeth ddiweddaraf sydd o ddiddordeb i chi. Ceir rhywfaint o drafod ynghylch ystyr RSS, ond mae'r mwyafrif o bobl yn derbyn 'Syndicetiad Syml Iawn'. Math arbennig o dudalen we yw porthiannau RSS, a ddylunnir i gael eu darllen gan gyfrifiaduron yn hytrach na phobl. Efallai y byddai’n help petaech yn meddwl amdanynt fel fersiwn rad ac am ddim ar y rhyngrwyd o'r peiriannau gwifr a theipio telegraffig hen-ffasiwn.
Nid yw pob gwefan yn darparu RSS ar hyn o bryd, ond mae ei boblogrwydd yn prysur gynyddu gyda nifer o wefannau eraill yn ei ddarparu, gan gynnwys y Guardian, New York Times a CNN.
Sut mae dechrau defnyddio porthiannau RSS?
Yn gyffredinol, darllenydd newyddion yw’r peth cyntaf y mae ei angen arnoch. Darn o feddalwedd yw hwn sy'n gwirio porthiannau RSS ac yn gadael i chi ddarllen unrhyw erthyglau newydd a ychwanegwyd atynt. Ceir nifer o fersiynau gwahanol – ceir mynediad at rai ohonynt drwy ddefnyddio porwr, ac mae rhai ohonynt yn rhaglenni cymwysiadau y gellir eu lawrlwytho. Mae darllenydd newyddion ar ffurf porwr yn gadael i chi ddarllen eich porthiannau RSS ar unrhyw gyfrifiadur, tra bo rhaglenni cymwysiadau y gellir eu lawrlwytho yn gadael i chi eu storio ar eich prif gyfrifiadur, yn yr un modd â phan fyddwch chi'n lawrlwytho eich e-bost drwy ddefnyddio Outlook, neu'n ei gadw ar wasanaeth ar y we, megis Hotmail.
Ar ôl i chi ddewis darllenydd newyddion, yr unig beth y mae’n rhaid i chi ei wneud yw penderfynu pa gynnwys yr ydych am ei gael yn eich darllenydd newyddion. Gellir gwneud hyd drwy ganfod y porthiannau RSS perthnasol, a thanysgrifio iddynt. Er enghraifft, os hoffech gael y Newyddion diweddaraf, ewch i wefan megis bbc.co.uk a dod o hyd i fotwm RSS oren. Neu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am chwaraeon, gallech fynd i skysports.com a chysylltu i un o'u porthiannau RSS. Wrth gwrs byddwch am gysylltu i’n porth RSS ni, er mwyn sicrhau na fyddwch chi byth yn methu llith gyffrous ddiweddaraf ein swyddog gweithredol.
Os cliciwch y botwm, gallwch danysgrifio i’r porth mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys drwy lusgo URL y porth RSS i’ch darllenydd newyddion, neu drwy dorri a gludo'r un URL i borth newydd yn eich darllenydd newyddion. Mae rhan fwyaf y gwefannau sy'n cynnig porthiannau RSS yn defnyddio botwm RSS oren tebyg, ond efallai mai dolen we arferol i'r porth fydd gan rai ohonynt.
Mae rhai porwyr, gan gynnwys Firefox, Opera a Safari, yn chwilio am borthiannau RSS yn awtomatig wrth i chi ymweld â gwefan, ac yn dangos eicon pan ddônt o hyd i borth.
Gall hyn wneud tanysgrifio i borthiannau RSS yn haws o lawer. I gael rhagor o fanylion am y rhain, ymwelwch â’u gwefannau.
Sut mae cael darllenydd newyddion?
Mae amrywiaeth o ddarllenyddion newyddion gwahanol ar gael, ac mae fersiynau newydd yn ymddangos drwy’r amser.
Mae gwahanol ddarllenyddion newyddion yn gweithio ar wahanol systemau gweithredu, felly bydd angen i chi ddewis un a fydd yn gweithio gyda’ch cyfrifiadur.
Rhestrir isod rai o’r darllenyddion newyddion RSS gorau:
Windows
Mac OS X
Web
Browser
Mozilla Firefox
Other News Readers (GOOGLE)
Cofiwch nad yw Hope House yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
Beth yw RSSMwy o manylion Rasus Santa: Ras Santa
Cardiau Nadolig 2008

Mae ein Cardiau Nadolig ar gael yn ein siopau neu trwy'r post, cliciwch yma
Christmas Card Brochure am copi o'r llyfryn.
Ymunwch a Loteri Hope House er mwyn gael siawns o ennill £1000!







