Hafan : Amdanom Ni : Gofal : Care
Allwn ni helpu?
Mae Hope House yn bodoli i ddarparu gofal hosbis mewn amgylchedd plentyn-ganolog. Caiff unrhyw un gyfeirio plentyn at Hope House, boed yn feddyg, yn weithiwr proffesiynol arall ym maes gofal iechyd neu’n aelod o’r teulu. Yr oll yr ydym yn ei ofyn yw bod rhieni’r plentyn neu’r unigolyn sydd â chyfrifoldebau rhiant yn cytuno i’r atgyfeiriad a’u bod yn ymwybodol o’n meini prawf.
Ar ôl i blentyn gael ei gyfeirio, mae angen i ni gael caniatâd ysgrifenedig gan y rhiant/yr unigolyn sydd â chyfrifoldebau rhiant. Mae hyn yn ein galluogi i ofyn am wybodaeth feddygol gan Baediatregydd a Meddyg Teulu’r plentyn at ddefnydd panel atgyfeiriadau Hope House.
Mae'r panel yn cynnwys swyddog meddygol yr hosbis, uwch nyrsys a staff gwaith cymdeithasol, a byddant yn penderfynu a dderbynnir atgyfeiriad ai peidio. Mae angen iddynt ffurfio barn na fydd disgwyl i’r plentyn neu'r unigolyn ifanc, ym marn y gweithwyr proffesiynol meddygol perthnasol, fyw am gyfnod hir ar ôl iddynt ddod yn oedolion.
Rydym yn gofalu am fabanod, plant a phobl ifanc a chanddynt amrywiaeth o gyflyrau:
- Grŵp 1: Cyflyrau sy’n bygwth bywyd lle gallai triniaeth wella’r cyflwr, ond y gallai’r driniaeth honno fethu, ac efallai y byddai angen mynediad at wasanaethau gofal lliniarol os bydd y driniaeth yn methu. Ni chynhwysir plant sydd mewn proses gwellhad ysbeidiol hir dymor, neu sydd wedi cael triniaeth wellhad lwyddiannus. (Enghreifftiau: canser, y galon, yr aren neu’r afu wedi methu, ac na ellir gwrthdroi hynny)
- Grŵp 2: Cyflyrau lle mae marwolaeth gynamserol yn anorfod, lle bydd cyfnodau hir o driniaeth ddwys i geisio ymestyn eu bywyd ac i’w galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau arferol. (Enghraifft: ffibrosis systig)
- Grŵp 3: Cyflyrau cynyddol heb driniaeth wellhad, lle ceir triniaeth gofal lliniarol yn unig a gall y driniaeth honno ehangu'n gyffredinol dros flynyddoedd lawer. (Enghraifft: Afiechyd Batten, Mucopolysaccharidoses, Nychdod Cyhyrol)
- Grŵp 4: Cyflyrau na ellir eu gwrthdroi ond nad ydynt yn gyflyrau cynyddol, sy'n achosi anabledd difrifol ac sy'n tueddu i arwain at gymhlethdodau iechyd a thebygolrwydd o farwolaeth gynamserol. (Enghreifftiau: parlys yr ymennydd difrifol, anableddau lluosog – er enghraifft, ar ôl cael anafiadau i’r asgwrn cefn neu i'r ymennydd)
Beth sy'n digwydd nesaf?
Yn ein golwg ni, mae’n bwysig iawn i ni feithrin perthynas glòs gyda’r plentyn neu’r unigolyn ifanc a’u teulu er mwyn eu helpu, yn y ffordd orau bosibl, drwy’r cyfnodau anodd sydd o’u blaenau. Ar ôl i’r plentyn gael ei dderbyn, gallwn drefnu isafswm o ofal seibiant ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Mae ein gwasanaeth yn hyblyg ac mae nifer yr ymweliadau â Hope House, a hyd yr ymweliadau hynny, yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys cyflwr iechyd presennol y plentyn neu’r unigolyn ifanc a gofynion eu teulu. Gallwn ofalu am blentyn tra bydd aelodau eraill o’r teulu’n cymryd hoe y mae ei hangen yn fawr arnynt, neu gallwn weithio ochr yn ochr â’r teulu i helpu gyda’r drefn feunyddiol. Gall y gefnogaeth hon hefyd gynnwys gofal nyrsio hyfedr yng nghartref y teulu.
Ni chodir tâl ar y teuluoedd sy'n defnyddio Hope House.
Mae’r Tîm Gofal yn cynnwys amrywiaeth o weithwyr proffesiynol ym maes gofal cymdeithasol ac iechyd, er mwyn hyrwyddo agwedd amlddisgyblaeth a galluogi gofal cyfannol gwirioneddol. Meddyg lleol yw'r Swyddog Meddygol, a chanddo gymwysterau ychwanegol ym maes gofal lliniarol pediatrig.
Nyrsio Allanol
Gall gofalwyr hyfforddedig a nyrsys plant profiadol ddarparu gofal nyrsio terfynol a brys yng nghartref y teulu. Gellid gwneud hyn efallai yn ystod argyfwng teuluol neu pan fydd y plentyn neu'r unigolyn ifanc yn mynd yn wael iawn. O bryd i’w gilydd, gall fod yn bosibl darparu gofal seibiant wedi'i drefnu yn y cartref, er, mae hyn yn dibynnu ar nifer yr argyfyngau y mae’r Tîm Allgymorth yn delio â hwy ar y pryd.
Cefnogi Brodyr a Chwiorydd
Adeiladu Pontydd yw ein rhaglen sy’n rhoi cefnogaeth i frodyr a chwiorydd. Mae’n cynnwys amrywiaeth o dripiau a diwrnodau gweithgaredd ar gyfer plant a phobl ifanc o wahanol oed. Yn ystod y rheini gall brodyr a chwiorydd gwrdd â’i gilydd a rhannu pryderon gydag eraill sy’n deall yn union sut beth yw byw gyda brawd neu chwaer terfynol wael. Rydym hefyd yn cynnig gwaith uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc. Caiff brodyr a chwiorydd sy’n galaru gefnogaeth naill ai’n unigol, neu mewn grwpiau therapiwtig bychan, a hynny gan staff sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig.
Cynhelir grwpiau cefnogaeth hefyd ar gyfer rhieni sy’n defnyddio’r hosbis, ac o dro i dro fe drefnir grwpiau ffocws bach ar gyfer rhieni sy’n galaru.
Cefnogaeth Gwaith Cymdeithasol
Mae'r Tîm Gwaith Cymdeithasol yn darparu arweiniad, eiriolaeth a chefnogaeth i'r plant, y bobl ifanc a'r teuluoedd sy'n defnyddio Hope House. Gallant hefyd ddarparu cyngor ariannol, cymorth gyda cheisiadau i addasu tŷ a chefnogaeth yn ystod y trosglwyddiad o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion.
Cefnogaeth gyda Phrofedigaeth
Cynigir cefnogaeth gyda phrofedigaeth i bob teulu yn dilyn marwolaeth plentyn, a hynny gyhyd ag y bydd angen cymorth ar y teulu. Gall y cymorth hwn gael ei ddarparu gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol yn y tîm gofal, a gall amrywio o sesiwn gwnsela ffurfiol ar gyfer y teulu i gyfeillachu anffurfiol. Cynhelir gwasanaethau coffa blynyddol, a rhoddir gwahoddiad i bob teulu sydd wedi colli plentyn.
Cwnsela
Cyflogir Cwnselydd Teulu i gynnig cefnogaeth i holl deuluoedd Hope House.
Gall hyn fod yn unigol neu mewn grŵp teulu, a hynny cyn ac ar ôl profedigaeth. Caiff teuluoedd yn y gymuned ehangach eu derbyn i'r gwasanaeth hwn hefyd – teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan brofedigaeth plentyn, a hynny’n aml mewn amgylchiadau trawmatig. Gellir hefyd gynnig cefnogaeth i deuluoedd gan gwnselwyr gwirfoddol profiadol, sydd wedi’u dethol yn ofalus ac sy’n briodol gymwys.
Mae Hope House Children’s Hospices yn elusen gofrestredig, ac mae'n costio £3.5 miliwn y flwyddyn i'w chynnal. Caiff canran fechan o’n cyllid ei darparu gan y llywodraeth, ond rydym yn dibynnu ar gyfraniadau ariannol gan y cyhoedd i barhau â'r gwasanaethau hyn.
I gyfeirio plentyn at Ty Gobaith, neu i drafod ein gwasanaethau ymhellach, ffoniwch 01492 651900 neu anfonwch e-bost at gofal@tygobaith.org.uk
Beth yw RSSMwy o manylion Rasus Santa: Ras Santa
Cardiau Nadolig 2008

Mae ein Cardiau Nadolig ar gael yn ein siopau neu trwy'r post, cliciwch yma
Christmas Card Brochure am copi o'r llyfryn.
Ymunwch a Loteri Hope House er mwyn gael siawns o ennill £1000!







