Hafan : Amdanom Ni : Gwybodaeth Gyffredinol : Cwestiynau Cyffredin : Cwestiynau Cyffredin : Cwestiynau Cyffredin

Faint o deuluoedd yr ydych chi’n eu cefnogi?
Sut y daw plant i ddefnyddio Hope House/Tŷ Gobaith?
Pa fath o blant yr ydych chi’n eu cefnogi?
A yw ein plant yn gwella weithiau?
Beth sy'n digwydd os byddant yn byw i fod yn hŷn na 19?
Faint mae’n ei gostio i gynnal Hope House a Thŷ Gobaith?
Faint mae’n ei gostio i gynnal Hope House yn unig?
Faint mae’n ei gostio i gynnal Tŷ Gobaith?
Faint o gymorth a gewch gan y Llywodraeth?
Sut yr ydych chi’n codi’r holl arian hwnnw?
A oes unrhyw enwogion yn eich cefnogi?
Beth y gallwn ni ei wneud i helpu?

Faint o deuluoedd yr ydych chi’n eu cefnogi?

Ar hyn o bryd, rydym yn cefnogi 319 o blant a theuluoedd yn Hope House a Thŷ Gobaith. Mae 93 o'r teuluoedd hyn yn cael cymorth ar ôl profedigaeth:

Swydd Gaer – 38
Swydd Amwythig – 131
Powys a chanolbarth Cymru – 37
Gogledd Cymru  – 113


Top

Sut y daw plant i ddefnyddio Hope House/Tŷ Gobaith?

Gall plant gael eu cyfeirio gan unrhyw un – gan eu teuluoedd, eu meddyg, eu hymwelydd iechyd ac yn y blaen. Yr unig beth yr ydym yn gofyn amdano yw bod ganddynt ganiatâd rhieni’r plentyn neu unigolyn arall sydd â chyfrifoldebau rhiant. Yna caiff eu hachos ei adolygu gan ein panel. Os byddant yn bodloni ein meini prawf cynigir gwasanaeth seibiant iddynt, neu’r math o wasanaeth sy'n diwallu eu hanghenion orau – h.y. gofal cartref/cefnogi brodyr a chwiorydd ac ati.


Top

Pa fath o blant yr ydych chi’n eu cefnogi?

Os bydd y prognosis meddygol yn datgan nad yw'n debygol y bydd y plentyn yn byw i fod yn hŷn na 19 mlwydd oed a'i fod yn byw yn ein dalgylch, bydd y plentyn yn bodloni ein meini prawf.


Top

A yw ein plant yn gwella weithiau?

Mewn nifer fach o achosion efallai na fydd salwch plentyn yn datblygu yn y modd a gredid i ddechrau, ac mae'n bosibl y bydd yn goroesi. Mae llawer o’r plant y gofalwn amdanynt yn byw’n hwy, diolch i ddatblygiadau ym maes meddygaeth.


Top

Beth sy'n digwydd os byddant yn byw i fod yn hŷn na 19?

Ystyrir pob cais yn unigol, ac os bydd gan yr unigolyn ifanc ddisgwyliad oes byr, byddwn yn parhau i ofalu amdano. Mewn achosion eraill fodd bynnag, byddwn yn gweithio gyda hosbisau oedolion lleol a sefydliadau cyffelyb wrth ymdrechu i ddarparu gofal seibiant parhaus. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd angen i ni atal ein gwasanaeth yn raddol os nad yw amgylchedd sydd wedi’i anelu at blant yn addas bellach i\'r oedolyn ifanc dan sylw.

Lle mae’n glir fod iechyd person ifanc yn dirywio, a theimlir mai Hosbisau Plant Hope House yw’r sefydliad mwyaf addas i gynnig gofal iddynt, gallwn barhau i gefnogi’r person ifanc i fyny at 25 mlwydd oed.

 

 


Top

Faint mae’n ei gostio i gynnal Hope House a Thŷ Gobaith?

Mae angen i ni godi £3.5 miliwn bob blwyddyn er mwyn cynnal ein dwy hosbis a’n gwasanaethau allgymorth. Mae'n costio oddeutu £500,000 i ddarparu gwasanaeth Cwnsela, Nyrsio Cymunedol a Gwaith Cymdeithasol. Mae’r £500,000 ychwanegol yn mynd at reoli’r gwasanaeth ac at godi’r arian.


Top

Faint mae’n ei gostio i gynnal Hope House yn unig?

£1.5 miliwn


Top

Faint mae’n ei gostio i gynnal Tŷ Gobaith?

£1 miliwn


Top

Faint o gymorth a gewch gan y Llywodraeth?

Mae'r Llywodraeth wedi addo oddeutu £300,000 y flwyddyn i ni ar gyfer y 3 blynedd nesaf. Croesewir hyn yn fawr, ond dim ond oddeutu mis o'n gwaith y bydd hyn yn ei ariannu mewn gwirionedd.


Top

Sut yr ydych chi’n codi’r holl arian hwnnw?

Byddwn yn codi arian drwy gyfrwng amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys ysgolion a busnesau, a grwpiau, clybiau ac ymddiriedolaethau sy'n darparu grantiau. Bob mis, daw nifer fwyaf y cyfraniadau gan aelodau o’r cyhoedd sy'n credu yn yr hyn a wnawn ac yn rhoi'r hyn a allant.


Top

A oes unrhyw enwogion yn eich cefnogi?

Mae nifer o enwogion wedi ein helpu i godi arian dros y blynyddoedd, gan gynnwys Syr Norman Wisdom, Ulrika Johnson a Suranne Jones (cyn-aelod o gast Coronation Street). Ein Noddwyr o blith yr enwogion yw’r canwr opera Bryn Terfel, a’r cyflwynydd a’r canwr Aled Jones, a byddant yn ein cynorthwyo'n rheolaidd.


Top

Beth y gallwn ni ei wneud i helpu?

Codi arian! Gellir cael pecynnau codi arian sy’n cynnwys syniadau gan ein Swyddfa Codi Arian:
01492 596581. codiarian@tygobaith.org.uk
Ymunwch â’r Loteri
Ymunwch â Grŵp Cyfeillion
Gwirfoddolwch yn eich siop leol
Gwnewch gyfraniad misol neu gyfraniad un-tro


Top

 
Clogau Gold yn noddi Rasus Hwyl Sion Corn

Clogau Gold yn noddi Rasus Hwyl Sion Corn

ragor
click to access our News RSS Feed Beth yw RSS

Mwy o manylion Rasus Santa: Ras Santa

Cardiau Nadolig 2008

Christmas_Card.jpg

Mae ein Cardiau Nadolig ar gael yn ein siopau neu trwy'r post, cliciwch yma PDF Download Christmas Card Brochure am copi o'r llyfryn.

Ymunwch a  Loteri Hope House er mwyn gael siawns o ennill £1000!

article-20071015054812-0.jpg

 

 

 
Mae Hope House yn elusen gofrestredig, a'i rhif yw 1003859
(C) 2008 Hope House Cedwir Pob Hawl.
Prif Swyddfa: Hope House, Nant Lane, Morda, Ger Croesoswallt, Swydd Amwythig, SY10 9BX
Codi arian: Ffôn: 01691 671 671 • Gofal Ffôn: 01691 671 999
Gweinyddol: Ffôn: 01691 679 679 • Gwirfoddoli: Ffôn: 01691 679 679
 

 

Fundraising Promise Logowelsh_logos.gif