Ein Cyfleusterau
Cynlluniwyd Hope House i dderbyn cyfanswm o wyth plentyn mewn ystafelloedd sengl â chynllun arbennig gyda lle i hyd at bump o deuluoedd mewn llety ar wahân. Mewn amgylchiadau eithriadol iawn, gellir defnyddio dau wely ychwanegol pan geir argyfwng.
Mae gennym ystafell chwarae fawr, ystafell gyfrifiaduron, pwll therapi dŵr – a ddefnyddir mewn sesiynau ffisiotherapi rheolaidd – ystafell synhwyrau, ystafell fwyta fawr, lolfeydd ar gyfer teuluoedd a rhieni ac ystafell gerddoriaeth gydag adnoddau da, lle gall y plant a'u brodyr a'u chwiorydd fwynhau sesiynau therapi cerdd bendigedig. Mae gennym hefyd ‘ystafell plu eira’ neu ystafell arbennig sy'n galluogi’r teulu i aros yn agos at eu plentyn ar ôl iddo farw a chyn yr angladd.
Mae ein tîm allgymorth o nyrsys cymunedol yn cefnogi teuluoedd Hope House sydd am gael gofal yn eu cartrefi eu hunain os yw eu plentyn yn rhy sâl i ymweld â'r hosbis, ac mae ein gweithwyr cymdeithasol a'n cwnselwyr profedigaeth profiadol yn gweithio’n helaeth gydag aelodau teuluoedd, a hynny’n aml am flynyddoedd lawer ar ôl marwolaeth plentyn. Ymwelwch â’n Horiel Ddelweddau i gael taith o amgylch Hope House...
Mae teuluoedd sy’n byw yng Ngogledd Cymru yn cael gwasanaeth tebyg yn Tŷ Gobaith, ein hosbis yng Nghonwy.
Beth yw RSS
Mae ein cardiau Nadolig ar gael yn ein siopau neu trwy'r post; cliciwch yma am my o fanylion:
Cardiau Nadolig 2010
Ymunwch a Loteri Hope House er mwyn gael siawns o ennill £1000!






