Hafan : Amdanom Ni : Hope House : Stori Teulu

Stori Teulu

Darllenwch stori ddirdynnol un teulu a’u teyrnged i Hope House, a ymddangosodd yng nghylchgrawn Woman
(cliciwch y ddelwedd isod i ddarllen)

Diolch am wneud blynyddoedd olaf Chris yn flynyddoedd mor hapus

Annwyl David,

Ni wn sut y buasai fy ngŵr Mike a minnau wedi ymdopi â'r blynyddoedd diwethaf hebot ti. Roedd ein mab, Chris, yn wael iawn pan aethom ag ef i Hope House Children’s Hospice am y tro cyntaf. Roeddem yn poeni y byddai’n teimlo'n unig neu’n ofnus, ond cefaist wared ar ein hofnau yn syth ar ôl i ti gyflwyno dy hun. ‘David dwi,’ meddaist, gan wenu ar Chris, ‘ac mi fyddai yma i dy helpu di efo unrhyw beth y byddi di ei angen mêt.’ Gwyddem yn syth dy fod ti’n rhywun y gallem ymddiried ynddo.

Dros y pedair blynedd nesaf, enillaist le arbennig iawn yn ein calonnau. Byddwn yn ddiolchgar am byth...

Roedd Mike a minnau'n briod ers pedair blynedd pan ganfûm fy mod yn disgwyl Chris. Roeddem wrth ein bodd pan aned ein baban.

Yn ystod y blynyddoedd cyntaf, roedd Chris yr un fath ag unrhyw fachgen bach arall. Roedd yn hoff iawn o geir tegan ac o dynnu pethau'n ddarnau. Ond un diwrnod, pan oedd yn bedair oed, sylwodd un o'r athrawon yn ei ysgol ei fod yn cerdded ar flaenau’i draed. Fe’i cyfeiriwyd at feddyg i gael profion gwaed. ‘Mae gen i newyddion drwg,’ meddai’r meddyg wrthym. ‘Mae gan Chris gyflwr genetig o’r enw Nychdod Cyhyrol Duchenne.’

‘Beth yw hwnnw,’ ebychais, gan afael yn dynn yn llaw Mike.

‘Cyflwr lle mae’r cyhyrau’n nychu,’ atebodd. ‘Mae'n aml yn dechrau yn y coesau, ac yna'n effeithio ar y breichiau a'r bongorff. Bydd mewn cadair olwyn erbyn ei arddegau fwy na thebyg.’

‘Oes 'na wellhad?’ gofynnais, wrth i ddagrau gronni’n fy llygaid.

‘Nac oes mae arna’ i ofn,’ meddai’r meddyg. ‘Bydd y cyflwr yn effeithio ar ei galon hefyd, felly mae’n annhebygol y gwnaiff fyw yn hwy na'i 20au. Mae’n wir ddrwg gen i.’

Y noson honno, bu Mike a minnau’n cofleidio ein gilydd gan wylo. Roedd yn anodd dychmygu na allai ein bachgen bach bywiog, ymhen ychydig flynyddoedd yn unig, gerdded, heb sôn am redeg.

Dros y blynyddoedd nesaf, gwyliom gorff Chris yn dirywio'n araf. Erbyn iddo fod yn bump oed ni allai ddringo’r grisiau, ac wrth i gyhyrau ei goesau dynhau, roedd yn fwyfwy anodd iddo gerdded.

Roeddwn yn ymfalchïo cymaint yn newrder Chris. Ni siaradai prin ddim am ei gyflwr, roedd yn bwrw ymlaen â’i fywyd. Erbyn iddo fod yn wyth oed, roedd Chris yn gaeth i gadair olwyn. Rhoddwyd hefyd ffrâm ar gyfer asgwrn cefn iddo, gan fod ei asgwrn cefn yn dechrau plygu. Roedd yn anghyfforddus iddo, ac roedd gwylio ein mab yn dioddef cymaint ac yntau mor ifanc yn artaith.

Pan oedd yn 11 oed, fe’i cyfeiriwyd at ysgol Dorin Park, sef ysgol ar gyfer plant gydag anghenion arbennig, nid nepell o’n cartref yng Nghaer, Swydd Gaer. Roedd yn wirioneddol hapus yno, ac nid oedd yn teimlo’n wahanol i'r plant eraill.

Byddai Mike a minnau yn aml yn gorfod codi yn ystod y nos er mwyn troi Chris. Pan fyddai Mike wedi blino roedd yn anodd iddo wneud ei swydd fel cynllunydd Technoleg Gwybodaeth, a phan na fyddai Chris yn yr ysgol byddwn i’n gofalu amdano gartref, a gallai hynny fy mlino’n lân.

Cawsom ein cyfeirio at weithwraig gymdeithasol o'r enw Yvonne. Hi soniodd wrthym gyntaf am Hope House – hosbis plant ger Croesoswallt, Swydd Amwythig.
‘Mae ganddynt staff profiadol yno a all helpu i ofalu am Chris,’ meddai. Ond roeddwn yn gyndyn pan glywais y gair ‘hosbis’. ‘Ewch i gael gweld,’ meddai Yvonne. ‘Mae’n wahanol i'r hyn y byddech chi'n ei ddisgwyl.’ Roedd hi’n llygad ei lle. Pan gyrhaeddom yr adeilad mawr, sy'n swatio ymhlith bryniau tonnog ac sy’n llawn goleuni’r haul, cawsom ein syfrdanu. Oddi mewn, roedd yr ystafelloedd yn lliwgar ac yn llawn teganau a gemau. Roedd Chris yn ei hoffi.

‘Mi fyddai’n iawn yma Mam,’ meddai, gan rasio draw at y cyfrifiadur. Rai wythnosau’n ddiweddarach, cawsom ein cyflwyno i ti David. Roeddet ti wedi dy benodi'n nyrs i Chris, ond roeddet ti'n gymaint mwy na hynny. Roeddech chi'ch dau’n mwynhau gemau cyfrifiadur, ac roedd gennych yr un synnwyr digrifwch cellweirus. Byddai Chris yn gofyn yn gyson, ‘Pryd ga’ i fynd i weld David nesaf?

Mae holl staff Hope House yn gweithio'n galed i ddarparu gofal i'r plant yno – nifer ohonynt yn derfynol wael. Ond roeddet ti’n mynd yr ail filltir, gan ymweld â Chris gartref ar ei ben-blwydd, a ffonio am sgwrs pan na allai fynd i’r hosbis.
David, fe wnes di wneud i ni sylweddoli y gallai hosbisau fod yn lleoedd heulog, hwyliog, ac yn anad dim, yn lleoedd hapus.

Byddai Chris yn aros am benwythnos unwaith bob tri mis, ac fel rheol yn ymweld bob tridiau rhwng hynny. Roedd wrth ei fodd yno. ‘Mae'n blentyn arbennig iawn,’ dywedet wrthym gyda balchder.

Yna, pan oedd Chris yn 15 oed, bedair blynedd ar ôl iddo ymweld â Hope House am y tro cyntaf, dechreuodd ddioddef poenau yn ei stumog ac roedd yn anghyfforddus dros ben. Roedd yn ofnadwy gan fod ei nychdod cyhyrol wedi datblygu ac ni allai godi ei freichiau hyd yn oed. Yr unig beth a allai ei wneud oedd dweud wrthym pa mor anghyfforddus yr oedd yn teimlo. Ffoniom y meddyg, a dywedodd mai heintiad dŵr ydoedd fwy na thebyg ac fe ragnododd gwrthfiotigau, ond nid oedd y rheini’n gwneud gwahaniaeth.

Ychydig ddiwrnodau’n ddiweddarach, roedd Chris i fod i fynd i Hope House, ac roedd yn benderfynol o fynd i dy weld di a'i ffrindiau eraill. Ond y noson y cyrhaeddom, 25ain Awst 2000, roedd yn aflonydd ac anesmwyth iawn, a dywedodd meddyg yr hosbis wrthym drannoeth y dylem fynd ag ef i'r ysbyty er mwyn i feddyg gael golwg arno. ‘Mi wna' i yrru,’ meddai Mike, ‘fe wnaiff yr ambiwlans gymryd gormod o amser.’ Fe gynigaist di eistedd yn y cefn gyda Chris.  Y munudau nesaf oedd munudau gwaethaf fy mywyd. Roeddet ti’n adrodd jôc ddrygionus wrth Chris, ac fe’i clywais yn lledchwerthin. Yna fe ddywedaist jôc arall, ond ni chwarddodd. ‘Doeddet ti ddim yn meddwl bod honna'n ddigri te?’ gofynnaist, ond ni atebodd. ‘Chris? Chris? Wyt ti’n iawn?’ dywedaist yn frysiog. ‘Chris, siarada hefo fi...’ Yna gweiddaist, ‘mae ’na rywbeth o’i le, stopiwch!’ Wrth i Mike stopio'r car mewn cilfan, roedd pen Chris wedi gwyro am yn ôl, ac roedd ei lygaid wedi rowlio i gefn ei ben.

Gwyliais yn ddiymadferth wrth i ti a Mike geisio ei ddadebru. Ond gwyddwn mewn gwirionedd ei bod yn rhy hwyr – roedd calon ein mab wedi mynd yn rhy wan ac wedi stopio curo. Cafodd ei ruthro i'r ysbyty mewn ambiwlans, ond dywedwyd ei fod wedi marw cyn cyrraedd. Rhennaist ein dagrau wrth i’r meddyg ddweud wrthym nad oedd mewn poen wrth iddo farw. ‘Wna i byth ei anghofio,’ addewaist.

Roedd y misoedd canlynol yn uffern, ond fe helpaist di ni drwy hynny. ‘Ffoniwch fi pryd bynnag y byddwch angen siarad,’ dywedet. Roedd gwybod dy fod yno yn golygu cymaint.

Aeth pum mlynedd heibio ers marwolaeth Chris, ac rydym yn meddwl amdano bob dydd. Rydym yn dal i fwynhau ymweld â'r hosbis, a dod â rhoddion neu gyfraniadau neu roi help llaw. Mae dy weld di'n gwneud i ni deimlo’n nes at ein mab. Rydym wrth ein bodd yn clywed straeon am Chris – y pethau a wnâi pan nad oeddem yno, megis y ffordd y byddai’n helpu'r plant na allai siarad – roedd ganddo ffordd arbennig o uniaethu gyda phobl felly.

Mae Mike wedi ysgrifennu llyfr o'r enw Walk of Life, ac mae ynddo ran arbennig amdanat ti. Dyma ein ffordd o ddweud diolch o galon, i ti, ac i holl staff eraill Hope House, a wnaeth fywyd Chris mor hapus.

Cariad

Annette a Mike

Mae Walk of Life gan Mike Barratt yn costio £10, a gellir ei brynu yn www.members.aol.com/walkcontact. Bydd yr elw’n mynd at Hope House.

Bookmark and Share

 
Lands End to John O'Groats Challenge!

Lands End to John O'Groats Challenge!

ragor
click to access our News RSS Feed Beth yw RSS

 

 

 

Ymunwch a  Loteri Hope House er mwyn gael siawns o ennill £1000!

article-20071015054812-0.jpg

 

 

 
Mae Hope House yn elusen gofrestredig, a'i rhif yw 1003859
(C) 2010 Hope House Cedwir Pob Hawl.
Prif Swyddfa: Hope House, Nant Lane, Morda, Ger Croesoswallt, Swydd Amwythig, SY10 9BX
Codi arian: Ffôn: 01492 596 581 • Gofal : Ffôn: 01691 671 999
Gweinyddol: Ffôn: 01691 679 679 • Gwirfoddoli: Ffôn: 01691 679 679
Adwerthu/Siopau: Ffôn: 01978 262 901 • Loteri : Ffôn: 01691 672 610
 
 

 

Fundraising Promise Logowelsh_logos.gif