Hafan : Amdanom Ni

Mae Hope House Children’s Hospices yn elusen gofrestredig. Rydym yn rhedeg dwy hosbis, sef Hope House yng Nghroesoswallt, Swydd Amwythig, a Thŷ Gobaith yng Nghonwy, Gogledd Cymru. Mae ein gwasanaeth yn costio 3.5 miliwn y flwyddyn, ac rydym yn dibynnu'n gyfan gwbl fwy neu lai ar gyfraniadau ariannol er mwyn parhau â'n gwaith. Agorodd Hope House ym mis Hydref 1995, ac fe'i dilynwyd gan Dŷ Gobaith yn 2004. Ar hyn o bryd rydym yn gofalu am dros 320 o blant terfynol wael a'u teuluoedd.

image 

Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin i gael rhagor o wybodaeth.

Os carech siarad ag aelod o’r staff ynghylch y math o ofal a ddarparwn, neu os hoffech helpu i godi arian, Contact Us.

 Athroniaeth Gofal - Hosbisau Plant Hope House

 
Mae Hosbisau Plant Hope House yn darparu gofal a chefnogaeth i blant a phobl ifanc byr eu hoes a’u teuluoedd. Cynigir gwasanaethau amrywiol. Mae’r amrywiaeth yn cynnwys gofal seibiant a therfynol yn yr hosbis a/neu o fewn cartref y teulu, a chefnogaeth fel cynghori, eiriolaeth a hybu hawliau plant, pobl ifanc a gofalwyr. Cynigir cefnogaeth mewn profedigaeth i blant, pobl ifanc, aelodau teulu ac eraill sydd ynghlwm â’r teulu. Mae hyn yn ddibynnol ar ddymuniadau’r teulu ac yn parhau tra maent ei angen. Rydym hefyd yn cynnig cefnogaeth mewn profedigaeth a chynghor i deuluoedd allan yn y gymdeithas sydd wedi colli plentyn trwy salwch sydyn neu drawma. Gellir rhoi’r gefnogaeth yma hefyd i blant a phobl ifanc sydd wedi bod trwy’r profiad o farwolaeth rhywun agos iddynt mewn amgylchiadau trawmatic.
 

Yn yr hosbis bydd plant, pobl ifanc ac aelodau teulu yn cael eu croesawu i amgylchedd cyfeillgar a chartrefol gyda’r plentyn a person ifanc yn ganolog. Mae’r gefnogaeth a gynigir yn cynnwys gofal corfforol, seicolegol ac ysbrydol gan dîm profiadol sy’n cynnwys doctoriaid, nyrsys a gweithwyr proffesiynol eraill. Gwasanaeth anffurfiol a gynigir, ond wastad yn broffesiynol. Fe’i gefnogir gyda gwaith hanfodol staff arlwyo, cynnal a chadw, cadw tŷ, busnes a gweinyddol. Mae tîm codi arian yr hosbisau, ynghyd â’n siopau a llawer o wirfoddolwyr, yn sicrhau fod gofal cyson ac o’r safon uchaf yn cael ei gynnal.

 

 
Katie Darby raises the roof for Hope House Children's Hospices

Katie Darby raises the roof for Hope House Chil

ragor
click to access our News RSS Feed Beth yw RSS

 

 

 

Ymunwch a  Loteri Hope House er mwyn gael siawns o ennill £1000!

article-20071015054812-0.jpg

 

 

 
Mae Hope House yn elusen gofrestredig, a'i rhif yw 1003859
(C) 2010 Hope House Cedwir Pob Hawl.
Prif Swyddfa: Hope House, Nant Lane, Morda, Ger Croesoswallt, Swydd Amwythig, SY10 9BX
Codi arian: Ffôn: 01492 596 581 • Gofal : Ffôn: 01691 671 999
Gweinyddol: Ffôn: 01691 679 679 • Gwirfoddoli: Ffôn: 01691 679 679
Adwerthu/Siopau: Ffôn: 01978 262 901 • Loteri : Ffôn: 01691 672 610
 
 

 

Fundraising Promise Logowelsh_logos.gif