Mae Tŷ Gobaith yn ail gartref bendigedig, a adeiladwyd yn bwrpasol yng nghanol Dyffryn Conwy, gyda golygfeydd ysblennydd ar draws yr aber. Dewiswyd y safle oherwydd yr heddwch a'r llonyddwch mae'n ei gynnig i’r plant a’r teuluoedd sy'n ymweld.

Mae gennym bedair ystafell wely i blant, a thair ystafell wely i rieni/teuluoedd, gyda phosibilrwydd defnyddio un ystafell fel ystafell wely i bumed plentyn pan geir argyfwng. Mae gan ystafell wely pob plentyn fynediad at ystafell ymolchi gyfagos gyda chyfarpar arbenigol, gan gynnwys teclynnau codi sy’n sownd yn y to. Ceir ystafell synhwyrau, ystafell gyfrifiaduron, lolfa, ystafell chwarae, ystafell therapi, cegin ac ystafell fwyta a lolfa i rieni. Mae gennym ystafell wely arbennig ar gyfer teuluoedd sydd newydd gael profedigaeth, ac mae ganddi ardd breifat y gall y teuluoedd ei defnyddio.
Ond y llecyn mwyaf poblogaidd yw’r teras allanol mawr, a gellir mynd iddo o bob ystafell gyhoeddus ac o holl ystafelloedd gwely’r plant – fe’i gwelir yma ar ddiwrnod heulog cynnes. Mae’r golygfeydd yn odidog!

Mae’r tir o amgylch wedi’i dirlunio’n helaeth i ganiatáu mynediad i gadair olwyn, a chafodd y tŷ gardd a ychwanegwyd yn 2007 groeso brwd – drwy garedigrwydd Anwyl Construction.

Adeiladwyd ystafell gynghori yn ddiweddar mewn lleoliad breifat gyda golygfa ysblennydd ar draws yr aber.
Beth yw RSS
Mae ein cardiau Nadolig ar gael yn ein siopau neu trwy'r post; cliciwch yma am my o fanylion:
Cardiau Nadolig 2010
Ymunwch a Loteri Hope House er mwyn gael siawns o ennill £1000!






