Y Plant
Mae dros 320 o deuluoedd sydd â phlentyn na fydd fyw’n hir, neu sydd wedi colli plentyn o’r fath yn ddiweddar, yn cael cefnogaeth gan Dŷ Gobaith a Hope House. Mae gan y plant sydd yn defnyddio ein gwasanaeth amrywiaeth eang o afiechydon oddi fewn categoriau ACT/RCPCH fel â chanlyn
Grŵp 1: Cyflyrau sy’n bygwth bywyd lle gallai triniaeth wella’r cyflwr, ond y gallai’r driniaeth honno fethu, ac efallai y byddai angen mynediad at wasanaethau gofal lliniarol os bydd y driniaeth yn methu. Ni chynhwysir plant sydd mewn proses gwellhad ysbeidiol hir dymor, neu sydd wedi cael triniaeth wellhad lwyddiannus. (Enghreifftiau: canser, y galon, yr aren neu’r afu wedi methu, ac na ellir gwrthdroi hynny) Grŵp 2: Cyflyrau lle mae marwolaeth gynamserol yn anorfod, lle bydd cyfnodau hir o driniaeth ddwys i geisio ymestyn eu bywyd ac i’w galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau arferol. (Enghraifft: ffibrosis systig) Grŵp 3: Cyflyrau cynyddol heb driniaeth wellhad, lle ceir triniaeth gofal lliniarol yn unig a gall y driniaeth honno ehangu'n gyffredinol dros flynyddoedd lawer. (Enghraifft: Afiechyd Batten, Mucopolysaccharidoses, Nychdod Cyhyrol) Grŵp 4: Cyflyrau na ellir eu gwrthdroi ond nad ydynt yn gyflyrau cynyddol, sy'n achosi anabledd difrifol ac sy'n tueddu i arwain at gymhlethdodau iechyd a thebygolrwydd o farwolaeth gynamserol. (Enghreifftiau: parlys yr ymennydd difrifol, anableddau lluosog – er enghraifft, ar ôl cael anafiadau i’r asgwrn cefn neu i'r ymennydd)








