Hafan : codi arian : Loteri Hope House : Loteri Hope House

Loteri Hope House

Drwy ymuno â Loteri Hope House gallwch gefnogi ein gwaith parhaus a chael cyfle i ennill gwobr ariannol.

Ffoniwch Llinell Gymorth y Loteri ar 01691 672610

Sut mae’n gweithio

Mae pob £1 a roddwch yn ystod yr wythnos yn rhoi’r hawl i chi gael rhif unigryw

Gwarentir y caiff gwobr o £1000 ei hennill bob wythnos, yn ogystal ag 2il wobr o £100, dwy wobr o £50 a dwy wobr o £25

Cyhoeddir y rhifau buddugol bob dydd Gwener, a chaiff y rhifau hynny eu dewis ar hap gan gyfrifiadur

Rhaid i chi dalu ymlaen llaw, a hynny gyda siec, cerdyn credyd neu drwy archeb sefydlog – dim ond aelodau sydd wedi talu gaiff eu cynnwys

Rhaid i bob chwaraewr fod yn 16 oed neu’n hŷn, gan ei bod yn drosedd i bobl iau nag 16 gamblo. Gall pob chwaraewr gael hyd at 10 rhif

Rhoddir gwybod i enillwyr yn awtomatig, a chânt eu siec drwy’r post.

Mae’n hawdd ymuno

Lawrlwythwch y ffurflen isod a'i llenwi, gan ei dychwelyd gyda’ch taliad i:

PDF Download Lottery Application Form

Hope House,
RHADBOST/FREEPOST SY1062
Croesoswallt/Oswestry,
SY10 9ZB

Ein Hymrwymiad

Mae Hope House (Lottery) Ltd. wedi cofrestru gyda rhif 071/1632 y Comisiwn Hapchwarae.

Dylai chwaraewyr gofio na fyddai taliadau i'r Loteri yn y dyfodol yn ddiogel petai'r Loteri’n wynebu methdaliad.

Fel aelodau o Hospice Lottery Association, rydym yn cefnogi Responsibility in Gambling Trust (www.rigit.org.uk), (www.gambleaware.co.uk) a Gamcare (www.gamcare.org.uk).

Anogir chwaraewyr sydd â phroblem gamblo i geisio cymorth gan y sefydliadau hyn, ac i siarad gyda ni os ydynt yn dewis gofyn i ni eu gwahardd.

Os oes gennych gŵyn yn erbyn y Loteri, cysylltwch â Rheolwr y Loteri yn Nant Lane, Morda, Croesoswallt, Swydd Amwythig, SY10 9BX.

Mae Hope House Children’s Hospices yn cydymffurfio â'r Ddeddf Diogelu Data. Caiff eich manylion eu hychwanegu at ein cronfa ddata. Os nad ydych am gael gohebiaeth gan yr Hosbisau, gallwch roi gwybod i ni ar unrhyw adeg.

Unrhyw Gwestiynau – Ffoniwch Llinell Gymorth y Loteri ar 01691 672610

cliciwch i gael rhagor o wybodaeth

Bookmark and Share

 
Lands End to John O'Groats Challenge!

Lands End to John O'Groats Challenge!

ragor
click to access our News RSS Feed Beth yw RSS

 

 

 

Ymunwch a  Loteri Hope House er mwyn gael siawns o ennill £1000!

article-20071015054812-0.jpg

 

 

 
Mae Hope House yn elusen gofrestredig, a'i rhif yw 1003859
(C) 2010 Hope House Cedwir Pob Hawl.
Prif Swyddfa: Hope House, Nant Lane, Morda, Ger Croesoswallt, Swydd Amwythig, SY10 9BX
Codi arian: Ffôn: 01492 596 581 • Gofal : Ffôn: 01691 671 999
Gweinyddol: Ffôn: 01691 679 679 • Gwirfoddoli: Ffôn: 01691 679 679
Adwerthu/Siopau: Ffôn: 01978 262 901 • Loteri : Ffôn: 01691 672 610
 
 

 

Fundraising Promise Logowelsh_logos.gif