Cymynroddion
Mae gadael rhywbeth yn eich Ewyllys i Hope House Children's Hospices yn un ffordd o sicrhau y bydd eich cefnogaeth i’n gwaith yn parhau ar ôl i chi farw.
Rydym yn awgrymu i chi ymgynghori â thwrnai cyn gwneud Ewyllys, er mwyn sicrhau y caiff eich dymuniadau eu datgan yn glir.
Mae gennym hefyd ymgynghorydd cymynroddion, a fyddai’n fwy na pharod i drafod hyn gyda chi.
Os carech adael cymynrodd i Hope House, gallwch wneud y canlynol...
- Gadael eiddo penodol yn gymynrodd
- Gadael cyfran o weddill eich ystâd i ni
- Cyfrannu swm penodol o arian
Bydd eich twrnai yn trafod yr opsiynau hyn gyda chi ac yn nodi’r cymal priodol yn eich ewyllys. Bydd angen iddo ddyfynnu ein teitl llawn a’n rhif elusen, sef...
Hope House Children's Hospices
Swyddfa Gofrestredig,
Nant Lane,
Morda,
Ger Croesoswallt,
Sir Amwythig,
SY10 9BX.
Rhif Elusen Gofrestredig: 1003859.
Os dymunwch, gallwch nodi yn eich cymynrodd ai i Hope House ynteu i Dŷ Gobaith yr ydych am roi cymynrodd
Gall ychydig o rym eich ewyllys chi wneud byd o ddaioni i ni.
Beth yw RSSMwy o manylion Rasus Santa: Ras Santa
Cardiau Nadolig 2008

Mae ein Cardiau Nadolig ar gael yn ein siopau neu trwy'r post, cliciwch yma
Christmas Card Brochure am copi o'r llyfryn.
Ymunwch a Loteri Hope House er mwyn gael siawns o ennill £1000!







