Hafan : Sut galla i helpu : Ein Haddewid Codi Arian : Ein Haddewid Codi Arian

Beth yw'r Addewid Codi Arian?

Addewid a wneir i'r cyhoedd gan aelodau cynllun y Bwrdd Safonau Codi Arian yw’r Addewid Codi Arian, lle byddant yn ymrwymo i’r safonau arfer gorau, ac yn sicrhau bod eu holl weithgareddau yn agored ac yn deg, yn onest ac yn gyfreithiol. Drwy ymuno â chynllun y Bwrdd Safonau Codi Arian, byddwch yn cytuno i lynu wrth yr Addewid Codi Arian wrth i chi godi arian.

Ein Haddewid Codi Arian

Rydym yn aelodau o gynllun hunanreoleiddio'r Bwrdd Safonau Codi Arian. Mae’r Bwrdd Safonau Codi Arian yn gweithio i sicrhau bod mudiadau sy’n codi arian gan y cyhoedd yn gwneud hynny’n onest ac yn briodol. Fel aelodau o’r cynllun, rydym yn dilyn Codau Ymarfer Codi Arian y Sefydliad Codi Arian ac yn cydymffurfio â’r egwyddorion allweddol sydd yn y Codau ac yn yr Addewid hwn.

Rydym wedi Ymrwymo i Safonau Uchel

  • Gwnawn bopeth o fewn ein gallu i sicrhau bod gwirfoddolwyr, contractwyr a swyddogion codi arian sy’n gweithio gyda ni i godi arian yn cydymffurfio â’r Codau a’r Addewid hwn.
  • Rydym yn cydymffurfio â’r gyfraith, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â diogelu data, iechyd a diogelwch a’r amgylchedd

Rydym yn Onest ac yn Agored

  • Rydym yn dweud y gwir ac nid ydym yn gor-ddweud
  • Rydym yn gwneud yr hyn a ddywedwn a wnawn
  • Rydym yn ateb pob cwestiwn rhesymol am ein gweithgareddau codi arian a’n costau.
  • Os oes angen rhagor o fanylion arnoch, cysylltwch â ni, rhowch gip ar ein gwefan neu darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol

Rydym yn Glir

  • Rydym yn glir ynghylch pwy ydym ni, yr hyn a wnawn a sut y defnyddir eich cyfraniad
  • Pan fydd gennym gytundeb hyrwyddo gyda chwmni masnachol, byddwn yn egluro faint o’r pris prynu a gawn ni
  • Byddwn yn rhoi eglurhad clir o sut y gallwch wneud cyfraniad a diwygio ymrwymiad rheolaidd

Rydym yn Barchus

  • Rydym yn parchu hawliau, urddas a phreifatrwydd ein cefnogwyr a’n buddiolwyr
  • Ni fyddwn yn pwyso gormod arnoch i gyfrannu ac os nad ydych am gyfrannu neu am roi'r gorau i gyfrannu, byddwn yn parchu eich penderfyniad.
  • Os byddwch yn dweud wrthym nad ydych am i ni gysylltu â chi mewn ffordd benodol, ni fyddwn yn gwneud hynny

Rydym yn Deg ac yn Rhesymol

  • Rydym yn gofalu nad ydym yn defnyddio unrhyw ddelweddau na geiriau a allai achosi trallod neu dramgwydd na ellir ei gyfiawnhau
  • Rydym yn gofalu nad ydym yn achosi unrhyw niwsans nac aflonyddwch afresymol

Rydym yn Atebol

  • Os ydych yn anfodlon ag unrhyw beth yr ydym wedi’i wneud wrth godi arian, gallwch gysylltu â ni i gwyno
  • Mae gennym drefn gwyno ac mae copi ohoni ar gael ar gais. Os na allwn ddatrys eich cwyn, rydym yn derbyn awdurdod y Bwrdd Safonau Codi Arian i wneud penderfyniad terfynol

 
Clogau Gold yn noddi Rasus Hwyl Sion Corn

Clogau Gold yn noddi Rasus Hwyl Sion Corn

ragor
click to access our News RSS Feed Beth yw RSS

Mwy o manylion Rasus Santa: Ras Santa

Cardiau Nadolig 2008

Christmas_Card.jpg

Mae ein Cardiau Nadolig ar gael yn ein siopau neu trwy'r post, cliciwch yma PDF Download Christmas Card Brochure am copi o'r llyfryn.

Ymunwch a  Loteri Hope House er mwyn gael siawns o ennill £1000!

article-20071015054812-0.jpg

 

 

 
Mae Hope House yn elusen gofrestredig, a'i rhif yw 1003859
(C) 2008 Hope House Cedwir Pob Hawl.
Prif Swyddfa: Hope House, Nant Lane, Morda, Ger Croesoswallt, Swydd Amwythig, SY10 9BX
Codi arian: Ffôn: 01691 671 671 • Gofal Ffôn: 01691 671 999
Gweinyddol: Ffôn: 01691 679 679 • Gwirfoddoli: Ffôn: 01691 679 679
 

 

Fundraising Promise Logowelsh_logos.gif