Hafan : Sut galla i helpu : Gwirfoddoli : Gwirfoddoli

Codi Arian

Mae angen i ni godi £3 miliwn y flwyddyn er mwyn cynnal gwaith Hope House Children's Hospices. Byddwn yn ymdrechu i godi’r arian hwn mewn amryw o ffyrdd gan gynnwys:

Siopau Elusen

Mae’r siopau’n cael dillad a thrugareddau o bob math fel rhoddion gan y cyhoedd ac yn eu gwerthu am bris rhesymol. Mae’r timau yn y siopau yn cael eu harwain gan reolwr a rheolwr cynorthwyol cyfeillgar. Caiff gwirfoddolwyr helpu gydag unrhyw agwedd ar y gwaith gan gynnwys gwerthu nwyddau i gwsmeriaid yn nhu blaen y siop neu ddosbarthu dillad, llyfrau neu drugareddau yn y cefn. Mae llawer o waith i’w wneud ac nid oes cyfle i neb ddiflasu! Bydd y siopau’n trefnu nosweithiau allan a digwyddiadau llawn hwyl lle gall staff gwirfoddol a staff cyflogedig gymdeithasu â’i gilydd. Rhowch gip ar y dudalen siopau er mwyn cael rhagor o wybodaeth am eich siop leol.

Grwpiau Cyfeillion

Grwpiau o bobl yw’r rhain sy’n dod at ei gilydd i godi arian i Hope House. Cânt eu cefnogi gan eu swyddog codi arian lleol ond maent yn annibynnol ac yn rheoli eu digwyddiadau eu hunain. Beth am i chi ymuno â’r grŵp lleol neu hyd yn oed ystyried sefydlu eich grŵp eich hun? Trowch at y dudalen codi arian i gael manylion eich grŵp lleol.

Rhoi help llaw mewn digwyddiad

Mae gan Hope House stondinau ym mhob rhan o'r rhanbarth gydol y flwyddyn. Os oes gennych lai o amser i’w roi neu os nad ydych am wneud ymrwymiad rheolaidd, hwn yw’r Cyfle Gwirfoddoli i chi! Gallwch ymrwymo cyn lleied â 2 awr unwaith y flwyddyn! A dal i wneud llawer dros yr ymdrech i godi arian i Hope House.

Yr Hosbis

Glanhau

Mae cadw ein hosbisau yn lân ac yn daclus yn dipyn go lew o waith. Allwch chi helpu? Gofynnwn i chi ymrwymo un bore neu brynhawn yr wythnos.

Gerddi

Mae’r plant a’r teuluoedd sy’n defnyddio ein hosbisau wrth eu bodd yn treulio amser yn y gerddi helaeth. Allech chi ein helpu i’w cadw’n daclus ac yn ddiogel? Gallech helpu gyda’r gwaith cynnal a chadw cyffredinol neu ‘fabwysiadu’ gwely neu ran o’r ardd i ofalu amdani.

Gyrru

Mae angen pobl a chanddynt drwydded yrru lân i helpu gyda’r gwaith o yrru plant a’u teuluoedd ac aelod o’r tîm gofal i’r hosbis o’u cartref, neu o’r hosbis ar dripiau, neu i gadw apwyntiadau yn yr ysbyty ac ati. Gallai hyn fod yn eich car eich hun neu (ar ôl hyfforddiant) yn ein bws mini sydd wedi'i addasu'n arbennig. Rydym yn gofyn i chi fod ‘ar-alwad’ un diwrnod yr wythnos neu ddiwrnod bob bythefnos.

Adeiladu Pontydd

Mae angen pobl a chanddynt sgiliau arbennig megis gweithwyr ieuenctid, gweithwyr cymdeithasol, cwnselwyr (cymwys neu rannol gymwys) i weithio gyda’n grŵp o frodyr a chwiorydd sydd wedi cael profedigaeth – Adeiladu Pontydd.

Beth mae Hope House yn ei gynnig i wirfoddolwyr?

Sesiwn gynefino

Mae pob gwirfoddolwr yn cael sesiwn gynefino drylwyr i’r hosbis. Mae hyn yn gyfle i ddysgu am ein gwaith ac i wneud yn siŵr bod gwirfoddoli yn Hope House neu yn Nhŷ Gobaith yn addas i chi. Yn anffodus, efallai y bydd yn rhaid i chi aros am y sesiwn gynefino nesaf cyn y cewch ddechrau gwirfoddoli.

Hyfforddiant

Mae pob gwirfoddolwr yn cael hyfforddiant sylfaenol yn ystod y sesiwn gynefino. Mae’n rhaid cael hyfforddiant mwy arbenigol ar gyfer rhai swyddogaethau. Gallai hyn ddigwydd ‘yn y gwaith’ megis yn y siopau neu ar gwrs ar gyfer gyrru’r bws mini yn ddiogel.

Y Tîm Gwirfoddoli

Rydym yn anelu at gael y tîm at ei gilydd yn rheolaidd a gallwch gael gwybod am unrhyw ddatblygiadau newydd yn yr Hosbis. Dyma ddatganiad o fwriad Hope House:

“Gwneud y gorau o fywydau byr a gwerthfawr”

Drwy wirfoddoli, gallwch ein helpu i wireddu’r bwriad hwn.

Cysylltu â ni

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn eich siop leol, galwch draw a chyflwyno eich hun. Os dywedwch fod gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli byddwch yn siŵr o gael croeso cynnes iawn!

I gael gwybodaeth am yr holl gyfleoedd eraill i wirfoddoli, gallwch ffonio neu anfon e-bost at Anne Goulding, ein Rheolwraig Adnoddau Dynol:

Ffôn: 01691 679 679
E-bost: volunteer@hopehouse.org.uk

 
Clogau Gold yn noddi Rasus Hwyl Sion Corn

Clogau Gold yn noddi Rasus Hwyl Sion Corn

ragor
click to access our News RSS Feed Beth yw RSS

Mwy o manylion Rasus Santa: Ras Santa

Cardiau Nadolig 2008

Christmas_Card.jpg

Mae ein Cardiau Nadolig ar gael yn ein siopau neu trwy'r post, cliciwch yma PDF Download Christmas Card Brochure am copi o'r llyfryn.

Ymunwch a  Loteri Hope House er mwyn gael siawns o ennill £1000!

article-20071015054812-0.jpg

 

 

 
Mae Hope House yn elusen gofrestredig, a'i rhif yw 1003859
(C) 2008 Hope House Cedwir Pob Hawl.
Prif Swyddfa: Hope House, Nant Lane, Morda, Ger Croesoswallt, Swydd Amwythig, SY10 9BX
Codi arian: Ffôn: 01691 671 671 • Gofal Ffôn: 01691 671 999
Gweinyddol: Ffôn: 01691 679 679 • Gwirfoddoli: Ffôn: 01691 679 679
 

 

Fundraising Promise Logowelsh_logos.gif