Hafan : Sut galla i helpu : Ras Santa : Ras Santa
Helpwch ni i wneud y Nadolig yn arbennig i'n plant
Mae Hosbisiau Plant Hope House fwy neu lai yn ddibynnol ar godi arian i gadw ein dwy hosbis - Ty Gobaith yng Nghonwy a Hope House yng Nghroesoswallt. Ym 2007, ymunodd mwy na 1,500 o bobl yn ein Ras Hwyl Siôn Corn a chodi mwy na £75,000 tuag at y £3.5 miliwn yr ydym ei angen yn flynyddol. Gallwch chi ein helpu ni gyrraedd y £100,000 eleni a chael i hwyl gwyl y Nadolig?
Eleni, mae dewis o 3 Ras Hwyl Siôn Corn gennym ar eich cyfer:
Ras Hwyl Siôn Corn Ty Gobaith - taith o filltir o hyd ar hyd y Rhodfa (Prom) yn Llandudno am 11yb;
Ras Hwyl Siôn Corn Hope House Wrecsam - milltir o gerdded neu rhedeg o amgylch Parc Gwledig Alyn Waters am 2yp;
Ras a Thaith Gerdded Hwyl Siôn Corn Hope House Croesoswallt - taith dair milltir drwy ganol goleuadau Nadolig y dref am 5yh.
Mae cofrestru yn parhau ar £12.50 gan gynnwys siwt santa a medal i gofio'r digwyddiad. Pam na ddowch draw a dechrau lawr lwytho'r ffurflen gofrestru isod? Neu gallwch e-bostio codiarian@tygobaith.org.uk neu fundraising@hopehouse.org.uk ac fe wnawn yrru un ichwi. Welwn ni chi ar y cychwyn!

Ffurflen Cofrestru Croesoswallt
Ffurflen Cofrestru Wrecsam
Beth yw RSSMwy o manylion Rasus Santa: Ras Santa
Cardiau Nadolig 2008

Mae ein Cardiau Nadolig ar gael yn ein siopau neu trwy'r post, cliciwch yma
Christmas Card Brochure am copi o'r llyfryn.
Ymunwch a Loteri Hope House er mwyn gael siawns o ennill £1000!







