Hope House Way
Syniad gwych am anrheg!
£9.95 yn unig (a £1.05 am bostio os byddwch yn ei archebu drwy’r post). Ar gael ym mhob Siop Hope House ac mewn rhai siopau llyfrau.
Croeso i’r llwybr cerdded newydd hwn, un o lwybrau hiraf a harddaf y Deyrnas Unedig. Dechreuwyd ar y gwaith i gynllunio'r llwybr cerdded ym 1998, pan gafodd tri aelod o Glwb Rotari Wrekin yn Wellington, Swydd Amwythig, weledigaeth i gael llwybr cerdded newydd i ddathlu'r Mileniwm. Yn wir, 'Wrekin Millennium Way' oedd enw gwreiddiol y llwybr. Yn sgil yr oedi oherwydd Clwy’r traed a'r genau, y cyllid angenrheidiol a maint y gwaith sydd ynghlwm wrth greu llwybr 539km (335 milltir), ni lwyddwyd i gwblhau'r llwybr tan 2004. Ar yr un pryd, newidiwyd enw'r llwybr i ‘Hope House Way’. Gwnaethpwyd hyn er mwyn dangos y caiff yr holl elw a geir wrth werthu’r arweinlyfr hwn ei gyfrannu i Hope House, a hefyd i roi cyhoeddusrwydd i’r gwaith gwych a wneir gan yr hosbis gofal seibiant hon i blant. Drwy brynu’r arweinlyfr hwn byddwch yn cyfrannu at ariannu’r hosbis, a drwy ddilyn y llwybr byddwch yn helpu i roi hwb i economïau gwledig lleol. P’un ai a ydych am ymdrechu i gerdded y llwybr yn ei gyfanrwydd, neu am ddilyn rhannau bach yn unig ar y tro, rwy’n gobeithio’n fawr y byddwch yn mwynhau amrywiaeth y tirwedd a harddwch y golygfeydd.
Syr Chris Bonington CBE
I brynu eich copi o Hope House Way, anfonwch e-bost at info@hopehouse.co.uk neu ffoniwch 01691 671671. Bydd yr holl elw’n mynd at Hope House Children's Hospices.
Neu gallwch brynu Hope House Way mewn nifer o siopau llyfrau lleol.
Beth yw Hope House Way?
Taith gerdded gron o dref farchnad hanesyddol Wellington yn Swydd Amwythig yw Hope House Way. Taith gerdded ydyw, neu, os yw’n well gennych, cyfres o deithiau cerdded, sy’n cynnig cyfle eang ac amrywiol i bawb. Mae gan y llwybr dirwedd amrywiol a hanes cyfoethog. Mae'r llwybr yn defnyddio cyfuniad o lwybrau adnabyddus a llwybrau poblogaidd hirach a byrrach, gyda llwybrau, cilffyrdd a llwybrau cerdded llai poblogaidd ac adnabyddus yn eu cydblethu.
Mae'r llwybr yn dechrau gyda thaith i gopa Wrekin. Er mai dim ond 407m ydyw, mae’n ymddangos yn uwch o lawer oherwydd ei leoliad ysblennydd. Ar ddiwrnod clir, gellir gweld o'r copa nifer o nodweddion a chopaon Hope House Way. Yn fuan ar ôl gadael y copa cyntaf o nifer sydd o'ch blaen, bydd y llwybr yn arwain i Ironbridge, un o Safleoedd Treftadaeth y Byd; yna ymlaen i Wenlock Edge a Bryniau Clee nes cyrraedd Llwydlo.
Mae llawer o ran nesaf y llwybr yng Nghanolbarth Cymru. Ger Llanandras mae’r llwybr yn cyd-fynd â Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa drwy Ceintun i gyrraedd y Gelli Gandryll. Oddi yma, mae llwybr cerdded bendigedig ar hyd glannau’r afon yn eich aros, gan ddilyn Llwybr Cerdded Dyffryn Gwy i fyny at Raeadr Gwy. Ar ôl gwau ei ffordd drwy Gwm Elan ac ymlaen i Bontarfynach, mae'r llwybr yn wynebu tirwedd gwyllt Pumlumon nes cyrraedd Machynlleth. Oddi yma, taith fechan i Ddyffryn Dysynni a rhan fwyaf gorllewinol y llwybr.
Y rhannau nesaf yw rhannau mwyaf heriol y llwybr fwy na thebyg. Mae’r llwybr yn wynebu tirwedd mynyddig uchel Cadair Idris a’r Aran Benllyn a’r Aran Fawddwy tuag at y Bala, ac yna ymlaen i Langollen dros Fynyddoedd y Berwyn. Bydd y llwybr yn ymuno â Llwybr Clawdd Offa eto'n fuan wrth fynd i'r Trallwng ac ymlaen i Drefaldwyn. Yna mae’r llwybr yn troi nôl i’r dwyrain i Loegr dros Stiperstones, y Long Mynd a Bryniau Stretton. Byddwch yn dychwelyd i Wellington unwaith eto dros gopa Wrekin, ond o'r gorllewin y tro hwn, cyn galw heibio'r dref. Yn y parthau hyn, mae gennym lwncdestun i 'bob cyfaill o amgylch Wrekin'. Erbyn i chi gwblhau Hope House Way, byddwch wedi cyfarfod â nifer o ffrindiau, ac yn bendant wedi bod 'o amgylch Wrekin'.








