Ride4Hope
Dros 3,000 o Filltiroedd ar Draws America
‘Mae'n bleser cael cefnogi GM Fundraising gyda'u Ride4Hope. Bydd y tîm hwn yn beicio dros 3,000 o filltiroedd ar draws UDA er mwyn Hope House Children's Hospices, gan godi arian y mae dirfawr ei angen ar y plant angheuol wael y mae’r hosbisau’n gofalu amdanynt. Rwy’n cynnig fy nghefnogaeth i'r achos teilwng hwn, ac yn annog pawb i chwarae eu rhan.’ Chris Boardman OBE, beiciwr a enillodd fedal aur yn y Gemau Olympaidd.

Ym mis Medi 2008, bydd tîm Ride 4 Hope yn cychwyn ar eu taith yn Oceanside, dafliad carreg o San Diego, ac yn beicio 3043 milltir ar draws UDA i Atlantic City, gan ddringo dros 100,000 troedfedd yn ystod y daith. Dros 16 diwrnod, bydd hyn yn cyfateb i oddeutu 200 milltir y dydd ar gyfartaledd. Cyflawnir hyn gan 3 tîm o bedwar a fydd yn cymryd eu tro i feicio, ac felly yn beicio am 12 awr y dydd rhyngddynt.
Bydd y beicwyr yn wynebu nifer o heriau gwahanol yn ystod y daith, gan gynnwys dringo i 10,000 troedfedd uwchben lefel y môr yn Colorado, a beicio 270 milltir mewn un diwrnod yn unig. Bydd tymheredd eithafol Nevada hefyd yn brawf i'r beicwyr, a bydd angen iddynt gael maeth arbennig i allu ymgymryd â’r her.
Bydd pob beiciwr yn ymgymryd â rhaglen hyfforddi 18 mis o hyd, a ategir gan hyfforddiant, ymgynghoriad deietegol a nifer o wersylloedd hyfforddi yn y DU a thramor. Mae'r broses hon eisoes wedi dechrau.
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu i wneud cyfraniad. www.gmfundraising.co.uk
Y Tîm:
Bydd tîm Ride 4 Hope yn cynnwys 12 beiciwr o'r diwydiannau gwydro ac adeiladu, gyda phob un ohonynt wedi treulio bron i 18 mis yn ymarfer ar gyfer yr her bwysig a theilwng hon. Bydd criw helaeth yn cefnogi'r beicwyr, a nhw fydd yn darparu'r cymorth wrth-gefn angenrheidiol ac allweddol yn ystod yr 16 diwrnod llafurus ar draws UDA.
Mae nifer o’r beicwyr eisoes wedi cwblhau’r daith o John O’Groats i Lands End yn 2005, sef taith 974 milltir. Yn 2006, cwblhaodd amryw o aelodau'r tîm y daith O Dŵr i Dŵr – o'r Tŵr Eiffel, Paris, i Dŵr Blackpool. Bydd pob beiciwr Ride 4 Hope yn dangos ymrwymiad i gyflawni uchelgeisiau personol ac uchelgeisiau i godi arian hollbwysig i Hope House Children’s Hospices.

Picture: Johnogroats
Llun: John O’Groats
Y Llwybr
Ym mis Medi 2008, bydd tîm Ride 4 Hope yn dechrau ar daith 16 diwrnod ar draws UDA, o Oceanside ger San Diego, California, i Atlantic City, New Jersey. Mae’r llwybr hwn eisoes wedi'i gynllunio drwy gyfrwng system llywio lloeren sy'n dangos pob ffordd a chyffordd ar hyd y llwybr.
Ar ddechrau’r daith ceir dringfa hir ar hyd llechweddau gorllewinol y Rockies, gan gyrraedd copa 10,000 troedfedd yn Cuchara, Colorado. Yn ystod rhan hon y daith, bydd yn rhaid i’r beicwyr ddioddef dringfeydd 20 milltir o hyd a diwrnodau hir ar y beic. Yna bydd y llwybr yn tywys y tîm ar draws gwastadedd canolbarth y Gorllewin i St Louis.
Oddi yma, bydd y llwybr yn troi tuag Indianapolis a thros fynyddoedd heriol a llethrog Appalachia i ben y daith yn Atlantic City, lle bydd ffrindiau a theulu’r tîm yn barod i’w croesawu.
Llun: Ceir darlun enghreifftiol o’r llwybr ar dudalen gefn y llyfryn
GMF:
Ers ei sefydlu, mae GM Fundraising wedi codi arian i nifer o elusennau a hosbisau plant. O'r cychwyn cyntaf, mae'r sylfaenydd, Gary Morton, wedi arwain tîm trefnu cryf, ac mae'n dal i gael ei gyfnerthu gan grŵp bach o unigolion ymroddgar. Mae’r grŵp yn rhoi o’u hamser yn hael, yn talu eu costau eu hunain ac yn gweithio’n galed i drefnu digwyddiadau ar gyfer noddwyr a chefnogwyr niferus GM Fundraising.
Sut Gallwch Chi Helpu
Ni allai GM Fundraising weithredu heb haelioni ei nifer dirifedi o gefnogwyr a noddwyr.
Mae bob amser angen eitemau o ansawdd ar gyfer rafflau ac arwerthiannau, ac mae nifer o gyfleoedd nawdd ynghlwm wrth ddigwyddiadau GM Fundraising. Byddwn bob amser yn hyrwyddo ein noddwyr a’n cefnogwyr yn rhan o’r digwyddiad, ond os byddai’n well gennych i’ch cyfraniad aros yn anhysbys, gwarentir ein cyfrinachedd.
I gael manylion am gyfleoedd nawdd gan gynnwys ein Ride 4 Hope 2008, i roi rhodd neu i wneud cyfraniad ariannol, cofiwch gysylltu â Gary Morton ar gary@gmfundraising.co.uk.
Tyrd o 'na, gelli wneud gwahaniaeth...
Ymwadiad
Mae’r wybodaeth a geir ar y wefan hon yn gywir adeg ei chyhoeddi. Fodd bynnag, mae GM Fundraising yn cadw'r hawl i newid manylion digwyddiadau a gwybodaeth arall heb rybudd, er byddwn yn ymdrechu i roi gwybod i bob unigolyn perthnasol pan gaiff manylion eu newid. Cysylltwch â ni i gael gafael ar y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau a gweithgareddau GMF.
Polisi Preifatrwydd
Dim ond i’r wefan hon y mae'r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol – nid yw’r polisi hwn yn berthnasol i ddolenni i wefannau eraill.
Nid yw’r wefan hon yn casglu gwybodaeth bersonol ar wahân pan fyddwn yn gofyn yn benodol am wybodaeth gennych. Byddwn yn casglu gwybodaeth ddienw, megis y tudalennau yr ymwelwyd â hwy, cyfeiriadau IP ac ati, a dim ond i wneud adroddiad ystadegol o'r wefan y defnyddir y wybodaeth honno.
Os carech gael gwybod mwy am GM Fundraising, gwneud cyfraniad neu drefnu digwyddiad, mae’n bosibl y gofynnir i chi am wybodaeth bersonol. Yn yr achos hwn, dim ond i ddarparu'r wybodaeth a'r gwasanaethau y gwnaethoch gais amdanynt y byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth bersonol a roddwyd gennych.
Ni chaiff gwybodaeth bersonol a ddarparwyd gennych a allai ddatgelu pwy ydych chi, ei gwerthu na’i rhentu i neb. Fodd bynnag, byddwn yn anfon gwybodaeth bersonol amdanoch a allai ddatgelu pwy ydych chi i sefydliadau partner, cwmnïau neu bobl eraill pan gawn eich caniatâd i rannu'r wybodaeth; pan fyddwn yn ymateb i orchmynion llys, prosesau cyfreithiol neu pan fydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny; neu pan fydd gwasanaeth y gwnaethoch gais amdano yn cael ei ddarparu gan sefydliad parter ar ein rhan.
Beth yw RSSMwy o manylion Rasus Santa: Ras Santa
Cardiau Nadolig 2008

Mae ein Cardiau Nadolig ar gael yn ein siopau neu trwy'r post, cliciwch yma
Christmas Card Brochure am copi o'r llyfryn.
Ymunwch a Loteri Hope House er mwyn gael siawns o ennill £1000!







