Hafan : Y newyddion diweddaraf : Newyddion Hope House :

Gwyl Gobaith/Festival of Hope Fehefin 26, 27 a 28.

Monday 18 May 2009

 

 

 
GWYL GOBAITH
 
Mae Hosbis Plant Tŷ Gobaith yn dathlu ei phenblwydd yn bump oed eleni – pum mlynedd o ofalu am blant angeuol wael a’u teuluoedd o Ogledd Cymru.
 
Pa ffordd well i ddathlu cyrhaeddiadau Tŷ Gobaith ac edrych ymlaen i’r dyfodol na chael seren Rhyngwladol Opera, Rhys Meirion yn cydlynnu gwyl tri diwrnod – Gwyl Gobaith/Festival of Hope – i’w chynnal yn Neuadd Gwysaney, Yr Wyddgrug ar Fehefin 26, 27 a 28.
 
Cychwynir y penwythnos gyda Chomedi yn y Parc ar nos Wener 26.  Mae’n swyddogol y byddem yn chwerthin gyda’r diddanwyr Silky, Milton Jones, Tudur Owen a’r comediwr o Chanel 4 “8 out of 10 cats” Jason Manford.   Tocynnau yn £20.
 
Clasuron yn y Parc sydd i’w gael ar nos Sadwrn 27 gyda Rhys Meirion ei hun yn cael cwmni Shan Cothi, David Kempster, Cor Rhuthun, Cerddorfa Ryngwladol Llundain, Band Prês Llaneurgain, Cor Merched Moreton Hall a chôr plant ysgol Ewloe Green.  Tocynnau yn £27 promenad a £40 i’r eisteddle.
 
Corau yn y Parc fydd yn cloi’r wyl ar nos Sul 28 gyda’r ser o Last Choir Standing ar y BBC – Only Men Aloud ag Ysgol Glanaethwy, Mark Evans o Your Country Needs You ar y BBC fydd yn ymuno a hwy ynghyd a chorau meibion lleol.  Tocynnau yn £27 promenad a £40 i’r eisteddle.
 
Mae cyfle I fwynhau’r wyl mewn steil?  Drwy fwynhau lletygarwch o’r radd flaenaf yn harddwch ac ysblenydd gerddi Neuadd Gwysaney. Dyma’ch cyfle i diddanu eich cleientiaid gyda bwyd a miwisg gorau sydd ar gael yng Nghymru.  Fe fydd ein Cogydd, Dai Davies yn creu pryd arbennig tri chwrs gan ddefnyddio cynyrch a chig o Ystad Gwysaney.  Fe fydd y tocyn yn cynnwys – derbyniad siampen a chanape yng Ngardd rhosod Neuadd Gwysaney, gyda cwrs tri chwrs bythgofiadwy, pedair potel o win (dwy wyn a dwy goch) cyflwynedig ar gyfer bwrdd o ddeg, rhaglen, sedd gadw a pharcio blaengar.  Fe ddarperir bwyd gwahanol ar gyfer y Nos Sadwrn a Sul.  Pris tocyn £95 y person.
Am ragor o fanylion cysyllter ag 01824 707050.
Dyma benwythnos na ddylai ddim cael ei methu!
 

Tocynnau ar gael drwy gysylltu a Theatr Pafiliwn y Rhyl ar: 01745 330 000 neu safle we: www.rhylpavilion.co.uk

Bookmark and Share

 
Lands End to John O'Groats Challenge!

Lands End to John O'Groats Challenge!

ragor
click to access our News RSS Feed Beth yw RSS

 

 

 

Ymunwch a  Loteri Hope House er mwyn gael siawns o ennill £1000!

article-20071015054812-0.jpg

 

 

 
Mae Hope House yn elusen gofrestredig, a'i rhif yw 1003859
(C) 2010 Hope House Cedwir Pob Hawl.
Prif Swyddfa: Hope House, Nant Lane, Morda, Ger Croesoswallt, Swydd Amwythig, SY10 9BX
Codi arian: Ffôn: 01492 596 581 • Gofal : Ffôn: 01691 671 999
Gweinyddol: Ffôn: 01691 679 679 • Gwirfoddoli: Ffôn: 01691 679 679
Adwerthu/Siopau: Ffôn: 01978 262 901 • Loteri : Ffôn: 01691 672 610
 
 

 

Fundraising Promise Logowelsh_logos.gif