Hafan : Y newyddion diweddaraf : Newyddion Hope House :
Ho! Ho! Ho! – mae’r Nadolig yn dod!
Wednesday 25 June 2008
Mae’r Nadolig yn prysur iawn ddod yn Hosbis Plant Ty Gobaith! Dim ond 6 mis sydd tan Ddydd Nadolig, ac yn bwysicach na hyn i’r plant a’r teuluoedd yn ein gofal yn ein hosbis dim ond 165 diwrnod sydd tan Ras Sion Corn Ty Gobaith!
“Mae’n hwyl, mae’n dymhorol – ac dim ond un filltir!” medd Rheolwraig Apel Ty Gobaith Sarah Kearlsey-Wooller. “Rydym angen cannoedd o Santas i’n helpu i godi arian ar gyfer gofal am blant angeuol wael lleol a’u teuluoedd – felly dowch ymlaen yn nawr!”
Fe fydd y ras – sydd ar hyn y Prom yn Llandudno ar Ddydd Sul Rhagfyr 7fed – yn llawn hwyl Nadoligaidd gan gynnwys miwsig ac adloniant.
Y llynnedd, fe ddaeth dros 500, gan gynnwys teuluoedd sy’n ymweld a’r hosbis ynghyd a aelodau o’n tim gofal a llwyddwyd i gasglu dros £35,000 i Ty Gobaith – yr unig hosbis i blant yng Ngogledd Cymru.
“Unwaith eto eleni, fe fyddem yn rhedeg dwy ras – un yma yn Llandudno a’r llall yng Nghroesoswallt, er mwyn rhoi’r cyfle i bawb gymeryd rhan. Nid hawdd yw meddwl am y Nadolig ym mis Mehefin, ond pam aros tan fis Ionawr i ddechrau colli pwysau a llosgi caloriau pan y gallwch wneud nawr? Rydym yn trefnu diwrnod i’r teulu – un na allwch beidio bod yn rhan ohono!” meddai Sarah.
Mae teuluoedd lleol yn dibynnu ar Ty Gobaith am ofal 24ain awr a chefnogaeth i’w plentyn angeuol wael. Mae’r gost o rhedeg Ty Gobaith dros £1 filiwn y flwyddyn gyda pedwar y cant yn dod gan y Cynulliad Cymreig.
Am ragor o fanylion, cysylltwch a Swyddfa Codi Arian Ty Gobaith ar 01492 596581 neu ebostiwch codiarian@tygobaith.org.uk

Beth yw RSSMwy o manylion Rasus Santa: Ras Santa
Cardiau Nadolig 2008

Mae ein Cardiau Nadolig ar gael yn ein siopau neu trwy'r post, cliciwch yma
Christmas Card Brochure am copi o'r llyfryn.
Ymunwch a Loteri Hope House er mwyn gael siawns o ennill £1000!







