Home : Latest News : Hope House News :
Gwyl Gobaith Fehefin 26, 27 a 28.
Monday 18 May 2009
GWYL GOBAITH
Mae Hosbis Plant Tŷ Gobaith yn dathlu ei phenblwydd yn bump oed eleni – pum mlynedd o ofalu am blant angeuol wael a’u teuluoedd o Ogledd Cymru.
Pa ffordd well i ddathlu cyrhaeddiadau Tŷ Gobaith ac edrych ymlaen i’r dyfodol na chael seren Rhyngwladol Opera, Rhys Meirion yn cydlynnu gwyl tri diwrnod – Gwyl Gobaith/Festival of Hope – i’w chynnal yn Neuadd Gwysaney, Yr Wyddgrug ar Fehefin 26, 27 a 28.
Cychwynir y penwythnos gyda Chomedi yn y Parc ar nos Wener 26. Mae’n swyddogol y byddem yn chwerthin gyda’r diddanwyr Silky, Milton Jones, Tudur Owen a’r comediwr o Chanel 4 “8 out of 10 cats” Jason Manford. Tocynnau yn £20.
Clasuron yn y Parc sydd i’w gael ar nos Sadwrn 27 gyda Rhys Meirion ei hun yn cael cwmni Shan Cothi, David Kempster, Cor Rhuthun, Cerddorfa Ryngwladol Llundain, Band Prês Llaneurgain, Cor Merched Moreton Hall a chôr plant ysgol Ewloe Green. Tocynnau yn £27 promenad a £40 i’r eisteddle.
Corau yn y Parc fydd yn cloi’r wyl ar nos Sul 28 gyda’r ser o Last Choir Standing ar y BBC – Only Men Aloud ag Ysgol Glanaethwy, Mark Evans o Your Country Needs You ar y BBC fydd yn ymuno a hwy ynghyd a chorau meibion lleol. Tocynnau yn £27 promenad a £40 i’r eisteddle.
Mae cyfle I fwynhau’r wyl mewn steil? Drwy fwynhau lletygarwch o’r radd flaenaf yn harddwch ac ysblenydd gerddi Neuadd Gwysaney. Dyma’ch cyfle i diddanu eich cleientiaid gyda bwyd a miwisg gorau sydd ar gael yng Nghymru. Fe fydd ein Cogydd, Dai Davies yn creu pryd arbennig tri chwrs gan ddefnyddio cynyrch a chig o Ystad Gwysaney. Fe fydd y tocyn yn cynnwys – derbyniad siampen a chanape yng Ngardd rhosod Neuadd Gwysaney, gyda cwrs tri chwrs bythgofiadwy, pedair potel o win (dwy wyn a dwy goch) cyflwynedig ar gyfer bwrdd o ddeg, rhaglen, sedd gadw a pharcio blaengar. Fe ddarperir bwyd gwahanol ar gyfer y Nos Sadwrn a Sul. Pris tocyn £95 y person.
Am ragor o fanylion cysyllter ag 01824 707050.
Dyma benwythnos na ddylai ddim cael ei methu!
Tocynnau ar gael drwy gysylltu a Theatr Pafiliwn y Rhyl ar: 01745 330 000 neu safle we: www.rhylpavilion.co.uk







